Y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd yr Ysgyfaint

Cross-Party Group on Lung Health

 

Cofnodion y cyfarfod ar 6 Chwefror 2024

 

Yn bresennol

ASau

John Griffiths AS (yn cael ei gefnogi gan Andrew Bettridge)

Mabon ap Gwynfor AS

 

Y rhai nad ydynt yn Aelodau o’r Senedd (19)

Alice Spencer

Andrew Wilson

Ben Coates – Asthma + Lung UK Cymru (Ysgrifenyddiaeth)

Chloe Hutchinson

Chrissie Gallimore

Claire Jankowska

Danny Grehan

Frankie Toner

Greg Pycroft

Jamie Duckers

Joanne Oliver (Cyflwynydd)

Jonathan Morgan

Joseph Carter

Josephine Cock

Kathryn Singh

Laura Dugdale

Monica Fletcher (Cyflwynydd)

Pam Lloyd

Rebecca Heathcote

Rhian Pearce

Ryland Doyle

Stephanie Phillips Morgan

Stephanie Woodland

Val Maidment

Val Tweedie

 

1.      Joseph Carter - Croeso a chyflwyniadau

 

Dechreuodd Joseph Carter y cyfarfod a diolchodd i bawb am fod yn bresennol. Dywedodd y byddai John Griffiths AS ychydig yn hwyr, felly gofynnwyd iddo agor y cyfarfod. Gofynnodd a oedd unrhyw Aelod o’r Senedd neu staff cymorth am gyflwyno ei hun, ac fe wnaeth Mabon ap Gwynfor AS hynny.

 

Rhoddodd Joseph Carter wybod y byddai Joanne Oliver, Gweithrediaeth GIG Cymru, a Monica Fletcher, Canolfan Asthma UK ar gyfer Ymchwil Gymhwysol, yn rhoi cyflwyniadau yn ystod y cyfarfod. 

 

2.      Joseph Carter - Ymddiheuriadau

 

Roedd yr Aelodau a ganlyn wedi anfon eu hymddiheuriadau:

 

Altaf Hussain AS

Buffy Williams AS

Cefin Campbell AS

Delyth Jewell AS

Heledd Fychan AS

Jane Dodds AS

Ken Skates AS

Llyr Gruffydd AS

Luke Fletcher AS

Mark Isherwood AS

Mike Hedges AS

Natasha Asghar AS

Peredur Owen Griffiths AS

Rhianon Passmore AS

Rhun ap Iorwerth AS

Sarah Murphy AS 

Siân Gwenllian AS

Sioned Williams AS

Tom Giffard AS

Vikki Howells AS

 

3.      Joseph Carter Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Roedd John Griffiths wedi cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â swyddfa Mabon ap Gwynfor i gadarnhau ei fod yn fodlon eilio’r gymeradwyaeth hon.

 

Cam i’w gymryd: Joseph Carter/Ben Coates i gysylltu â John Griffiths AS i gymeradwyo’r cofnodion – Yn yr arfaeth

 

4.      Joseph Carter – Materion sy’n codi

 

Yr unig gam gweithredu a oedd yn deillio o’r cyfarfod blaenorol oedd anfon copi o’r adroddiad ‘Saving Your Breath’ at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Wedi’i wneud

 

5.      Joanne Oliver, Rheolwr Rhwydweithiau (Rhwydweithiau a Chynllunio), Gweithrediaeth GIG Cymru: Y wybodaeth ddiweddaraf am Weithrediaeth y GIG a Rhwydweithiau Clinigol.

 

Cafodd Joanne Oliver ei chyflwyno gan John Griffiths AS.

 

Dechreuodd Joanne Oliver ei chyflwyniad drwy fanylu ar rôl a diben Gweithrediaeth GIG Cymru, a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2023. Hefyd, soniodd am y rhesymeg y tu ôl i’r newid i fodel Gweithrediaeth GIG Cymru, cyn amlinellu’r strwythurau llywodraethu, atebolrwydd a gweithredu cysylltiedig.

 

Aeth Joanne Oliver ymlaen i drafod sut y bydd Gweithrediaeth GIG Cymru yn rhyngweithio â'r Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol newydd. Cadarnhaodd y bydd y Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol yn cyflawni rôl ganolog yn yr elfen 'o wybodaeth i ymarfer' yn y ‘System Iechyd a Gofal sy’n Dysgu’ a nodir ym model y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol. Bydd y Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol hefyd yn chwarae rhan flaenllaw wrth gyflawni'r disgwyliadau a nodir yn llythyr Cylch Gwaith a Mandad Gweithrediaeth GIG Cymru.

 

Nododd fod pob un o'r Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol wedi cyrraedd gwahanol bwyntiau o ran cynnydd. Ychwanegodd fod y gwaith o ddatblygu’r rhwydwaith perthnasol ar gyfer gofal anadlol - y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Anadlol - yn mynd rhagddo, gyda'r broses recriwtio yn parhau a chyfarfodydd allweddol wedi’u trefnu i bennu cylch gorchwyl a blaenoriaethau ar gyfer y rhwydwaith. Hefyd, soniodd Joanne am strwythurau trefniadol Grŵp Arweinyddiaeth craidd y Rhwydwaith a'r Grŵp Cyfeirio Clinigol craidd. Mae'r grwpiau hyn yn allweddol o ran sicrhau bod blaenoriaethau'r fframwaith clinigol cenedlaethol yn cyd-fynd â'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau Anadlol.

 

Sesiwn hawl i holi yn dilyn y cyflwyniad gan Joanne Oliver.

 

Gofynnodd Joseph Carter sut y bydd y strwythurau, y systemau a'r penderfyniadau ar lefel y Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol yn effeithio ar wasanaethau a phenderfyniadau ar lawr gwlad. Pwysleisiodd Joanne fod dull gweithredu’r Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol yn caniatáu i Weithrediaeth GIG Cymru a'r rhwydweithiau gydweithio mewn ffordd ystyrlon â phob bwrdd iechyd. Grŵp Arweinyddiaeth craidd y Rhwydwaith a'r Grŵp Cyfeirio Clinigol craidd fydd y prif fforymau ar gyfer yr ymgysylltu hwn.

 

Gofynnodd Pam Lloyd sut y bydd y Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol yn cael eu sefydlu; er enghraifft, a oes unrhyw arian ar gael i helpu i weithredu'r cyfarwyddebau a ddaw o'r rhwydweithiau hyn? Hefyd, gofynnodd Pam pa fecanweithiau adborth fydd ar gael i alluogi byrddau iechyd i ddweud eu dweud ar waith y rhwydweithiau. O ran cyllid, cadarnhaodd Joanne Allen fod y Rhwydweithiau Clinigol Strategol Cenedlaethol wedi cael cyllid ymsefydlu. Ar hyn o bryd, mae'r cyllid wedi'i ddyrannu'n bennaf tuag at y broses recriwtio. Nid yw cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf wedi'i gytuno eto, ond disgwylir i’r mater hwn gael ei drafod yn fuan. Cytunodd Joanne y bydd mecanweithiau adborth hefyd yn allweddol a bod yn rhaid i'r rhwydweithiau ddilyn dull gweithredu cydweithredol, gan ddefnyddio'r cyllid penodedig sydd ar gael.

 

 

6.      Monica Fletcher, Arweinydd Partneriaethau, Canolfan Asthma UK ar gyfer Ymchwil Gymhwysol (AUKCAR)

 

Dechreuodd Monica Fletcher ei chyflwyniad drwy ddisgrifio rhychwant gwaith y rhwydwaith AUKCAR ar draws sector prifysgolion y DU. Ers ymuno â'r sefydliad, un o brif ffrydiau gwaith Monica fu edrych ar effaith y gwaith ymchwil gan AUKCAR; hynny yw, sut y gallwn sicrhau bod y wybodaeth a'r mewnwelediadau sy’n deillio o’r gwaith ymchwil hwn yn cael eu defnyddio i ddarparu gofal iechyd anadlol. Yn gysylltiedig â hyn, mae wedi bod yn hollbwysig ystyried pa rwystrau sy'n atal gwaith ymchwil rhag cael ei ddefnyddio’n ymarferol yn y ffordd hon.

 

Wedyn, rhoddodd Monica drosolwg o feysydd eraill sy’n rhan o waith y ganolfan, gan gynnwys ymdrechion i sicrhau bod cleifion yn parhau i gymryd meddyginiaeth yn unol â chyfarwyddiadau gweithwyr meddygol proffesiynol a defnyddio ymyriadau digidol i reoli pyliau o asthma gymaint â phosibl.

 

Wedyn, soniodd mewn rhagor o fanylder am raglen IMP2ART – rhaglen ymchwil sy’n canolbwyntio ar weithredu – sydd â’r nod o helpu meddygfeydd ledled y DU i wreiddio camau i hunanreoli asthma mewn gofal arferol. Roedd y rhaglen yn cynnwys 144 o feddygfeydd o bob rhan o’r DU, a disgwylir i ganlyniadau’r prif dreialon gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Hefyd, soniodd Monica am ei chyfraniad at astudiaeth ‘Children’s Health in London and Luton (Chill)’. Nod yr astudiaeth hon yw gwerthuso a yw'r Parth Allyriadau Isel Iawn (yn Llundain) yn effeithiol o ran lleihau llygredd aer a gwella twf yr ysgyfaint mewn plant, yn ogystal â gwella iechyd anadlol. Tynnodd sylw at y ffaith nad oes gan Luton barth aer glân o'r fath ar waith ar hyn o bryd. Nododd y byddai canlyniadau'r astudiaeth yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

 

Menter allweddol arall gan AUKCAR fu cefnogi hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr asthma o ystod eang o gefndiroedd, gan gynnwys clinigwyr, fferyllwyr, gwyddonwyr data, academyddion iechyd cyhoeddus ac economegwyr iechyd. Cadarnhaodd Monica fod rhwydwaith ehangach newydd yn cael ei lansio eleni i ehangu'r prosiectau cydweithredol hyn.

 

I gloi, amlinellodd Monica yr argymhellion allweddol sy’n seiliedig ar y corff o waith sydd wedi deillio o AUKCAR. Y rhain yw:

·         Camau ataliol

o   Cefnogi’r broses o gyflwyno Parthau Aer Glân – Mae angen i’r broses o gyflwyno parthau o’r fath fynd law yn llaw â chymorth ariannol i ymdrin â phryderon y cyhoedd.

o   Gostwng lefelau ysmygu – cynyddu'r terfyn oedran ar gyfer prynu sigaréts flwyddyn ar ôl blwyddyn; atal plant rhag cael mynediad at fêps; a gwahardd hysbysebu.

·         Diagnosis    

o   Hyfforddi nyrsys mewn asesiadau FeNo (fractional exhaled nitric oxide) a sbirometreg, ac annog y gwaith o gyflwyno’r asesiadau hyn mewn lleoliadau gofal iechyd presennol.

o   Cefnogi gwaith ymchwil i ddiagnosis gwell a chyflymach

·         Triniaeth/hunan-reoli

o   Hyrwyddo cyfundrefnau MART a lleihau’r gorddefnydd o anadlyddion glas

o   Mabwysiadu a gweithredu adnoddau digidol i wella ymlyniad

·         Deallusrwydd artiffisial/Rhagweld risg

o   Cefnogi’r gwaith o integreiddio offer risg sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i mewn i’r broses o hunan-ofal gan gleifion

·         Ymchwil

o   Cynyddu lefelau cyllid ar gyfer gwaith ymchwil ar iechyd anadlol

 

Sesiwn hawl i holi yn dilyn y cyflwyniad gan Monica Fletcher.

 

Gofynnodd John Griffiths AS gwestiwn ar ran Josephine Cock—cwestiwn a ddaeth i law drwy’r swyddogaeth sgwrsio gan—sef pa waith yr oedd AUKCAR wedi'i wneud yn edrych ar effaith llosgi tanwydd domestig ar iechyd yr ysgyfaint. Cadarnhaodd Monica fod AUKCAR yn gwneud llawer o waith ar ansawdd aer dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys monitorau personol y gellir eu gwisgo.

 

Nododd Jamie Duckers mai Cymru sydd â’r iechyd anadlol gwaethaf ledled Ewrop, a achosir gan gyflwr tai, llygredd a thlodi. Er hyn, ychydig iawn o Gymry sy’n cymryd rhan mewn treialon masnachol, a gofynnodd beth arall y gellir ei wneud i ymdrin â’r mater hwn.

 

Awgrymodd Joseph Carter y dylai’r grŵp trawsbleidiol ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod Cymru yn amgylchedd croesawgar ar gyfer gwaith ymchwil – Cam gweithredu i'w gymryd gan yr Ysgrifenyddiaeth.

 

7.      Ben Coates – Cyfarfod nesaf a gwaith arfaethedig

 

Cadarnhodd Ben Coates y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal am 09.30 ddydd Mawrth 21 Mai 2024.

 

 

8.      John Griffiths AS – Unrhyw fater arall

 

Gofynnodd John Griffiths AS a oedd gan unrhyw un fater arall yr oedd am ei drafod. Nid oedd unrhyw faterion eraill yn codi, felly diolchwyd i bawb am fod yn bresennol a daethpwyd â’r cyfarfod i ben.